AC(4)2014(2) Papur 4

Dyddiad:             29 Ionawr 2015

Amser:       13:00 – 14:30

Lleoliad:    Swyddfa'r Llywydd

Enw'r awdur a rhif cyswllt:  Claire Clancy, estyniad 8233

Paratowyd y papur hwn i’w ystyried gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n bapur cyfrinachol ac ni ddylid ei rannu'n ehangach. Pan fydd y Comisiwn yn cyfarfod i ystyried y papur, bydd y Comisiynwyr yn penderfynu a ddylai’r papur barhau’n gyfrinachol neu a ddylai gael ei gyhoeddi.


Adroddiad Uchafbwyntiau i’r Comisiwn

Cynnwys

1.0       Rhagarweiniad. 6

A.         Nod strategol – darparu cefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf. 6

2.0       Adolygiad o Gofnod yTrafodion. 6

3.0       Prosiect Cyfieithu Peirianyddol 7

4.0       Defnydd Aelodau o'r Gwasanaeth Ymchwil 7

5.0       Y Bwrdd Taliadau. 8

6.0       Cefnogi Pwyllgorau. 9

7.0       Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. 9

8.0       Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'r Aelodau a'u staff cymorth. 12

9.0       Ymgysylltiad a gwaith y Cynulliad ar faterion yr UE. 12

B.         Nod strategol – ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru.. 15

10.0   Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. 15

11.0   Diwrnod Newyddion Hyperleol 16

12.0   Dylanwadu a pharatoi ar gyfer newid cyfansoddiadol 17

13.0   Cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad. 17

14.0   Gweithgareddau allgymorth. 18

15.0   Sioeau haf 19

16.0   Cynnwys y cyhoedd yng ngwaith y pwyllgorau. 20

17.0   Addasiadau i'r Siambr / Prosiect Cefnogi Busnes y Cyfarfod Llawn  22

18.0   Y Cyfryngau Cymdeithasol 22

19.0   Sylw i fusnes y Cynulliad yn y cyfryngau. 22

20.0   Sylw i Bwyllgorau'r Cynulliad yn y Cyfryngau. 24

21.0   Teithiau o amgylch y Senedd, 24

22.0   Hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol 25

C.         Nod strategol – defnyddio adnoddau'n ddoeth.. 27

23.0   Llywodraethu Gwybodaeth. 27

24.0   Capasiti a Chynllunio'r Gweithlu. 27

25.0   Y Cynllun Prentisiaeth. 27

26.0   Cydraddoldeb a hygyrchedd. 28

27.0   Gwaith ar Ystâd y Cynulliad - Blaengynllun 10 Mlynedd ar gyfer Cynnal a Chadw ac Adnewyddu. 30

28.0   Mentrau cynaliadwyedd. 31

D.        Y wybodaeth ddiweddaraf am Faterion Ariannol 33

29.0   Sefyllfa Ariannol 2014-15. 33

30.0   Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb. 33

31.0   Caffael 34

E.         Rhyddid Gwybodaeth.. 36

32.0   Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer y cyfnod Gorffennaf-Rhagfyr 2014  36

mis Ionawr 2015

 


Adroddiad Uchafbwyntiau i’r Comisiwn

1.0        Rhagarweiniad

1.1        Mae’r adroddiad uchafbwyntiau yn crynhoi’r gwaith sydd wedi’i wneud yn ddiweddar, neu sy’n mynd rhagddo, i wneud cynnydd tuag at gyflawni nodau strategol y Comisiwn.  Nod yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i'r Comisiynwyr, er mwyn iddynt allu cyflawni eu swyddogaethau o ran goruchwylio a dwyn y rheolwyr i gyfrif.   Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a phrosiectau allweddol ers mis Mehefin 2014.

A.       Nod strategol – darparu cefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf

2.0        Adolygiad o Gofnod yTrafodion

2.1        Mae adolygiad wedi bod ar y gweill i ystyried sut yr ydym yn cofnodi trafodion, gan gynnwys Cofnod y Trafodion a'r cwestiwn ehangach o sut y mae pobl yn cael ac yn defnyddio gwybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd yn y Cynulliad.

2.2        Mae'r adolygiad yn:

a.             ymchwilio a dod o hyd i i wahanol ffyrdd o weithio a defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau yn y maes pwysig hwn o weithgarwch; 

b.            ystyried ar ba ffurf y dylid cofnodi trafodion er mwyn bodloni anghenion Aelodau a rhanddeiliaid; ac

c.             asesu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r cynhyrchion hyn mewn gwahanol ffyrdd, i wneud gweithgareddau'r Cynulliad yn fwy tryloyw, agored a haws ymgysylltu â hwy mewn byd digidol. 

2.3        Roedd rhan gyntaf yr adolygiad yn canolbwyntio ar wneud y broses o gynhyrchu'r Cofnod yn fwy costeffeithiol ac rydym wedi bod yn edrych yn agos ar y prosesau sydd ynghlwm â hyn, gan gynnwys gwneud defndydd effeithiol o nodiadau siarad yr Aelodau, sydd wedi'u paratoi, er mwyn lleihau amser trawsgrifio.

2.4        Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi wedi treialu ffyrdd gwahanol o weithio yn ystod tymor yr hydref er mwyn llywio canlyniad yr adolygiad.  Mae'r rhain bellach yn cael eu dadansoddi.

3.0         Prosiect Cyfieithu Peirianyddol

3.1        Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'n barhaus y system Microsoft Translator. Mae'n ystyried ffyrdd o sicrhau y gall capasiti'r gwasanaeth ateb y galw cynyddol am wasanaethau dwyieithog.

4.0        Defnydd Aelodau o'r Gwasanaeth Ymchwil 

Gwneud gwybodaeth yn fwy diddorol

4.1         Treialodd y Gwasanaeth Ymchwil gyfres o ffeithluniau (infographics) mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth Cymru yr hydref hwn.  Y nod oedd rhoi darlun cyflym a hawdd ei ddeall o raddfa'r newidiadau cyffredinol o fewn cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru i Aelodau, Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yn gyffredinol.   Roedd yr adborth a'r diddordeb gan yr Aelodau a'r cyhoedd yn wych.  Ein ffeithlun o'r Setliad Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol a gafodd y defnydd mwyaf ar lif Twitter y Gwasanaeth Ymchwil, o ran trydariadau, aildrydar, hoffi a chael ei grybwyll mewn trydariadau pellach. 

Cyfarfodydd rhwng y Gwasanaeth Ymchwil a Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

4.2         Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cynnal dau gyfarfod 'Grŵp Gwella Busnes' gyda Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad trawsbleidiol.  Nod y grŵp yw ein helpu i deilwra ein cefnogaeth i anghenion yr Aelodau a'u staff, sy'n newid.  Roedd y cyfarfodydd yn ystyried ein hymagwedd tuag at gyhoeddiadau ymchwil rhagweithiol ee pa fath o gyhoeddiadau a thestunau y mae Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r Aelodau yn eu gweld yn ddefnyddiol - a phrofiad y cwsmer o gyflwyno ymholiadau.  Daeth rhai syniadau defnyddiol i'r amlwg, fel sut y gallwn ei gwneud yn haws i ddarllenwyr gael gafael ar gyhoeddiadau newydd sy'n berthnasol iddynt hwy.  Fel gwasanaeth, rydym yn gweld bod y cyfarfodydd yn ein helpu i ddeall sut mae Aelodau, Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a grwpiau plaid yn defnyddio ac yn gweld ein gwasanaethau.

 

Defnydd yr Aelodau o'r Gwasanaeth Ymchwil 

4.3         Mae Aelodau'r Cynulliad a'u staff yn parhau i wneud defnydd ardderchog o'r Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer ymholiadau ymchwil cyfrinachol, unigol.  Yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2014, cafwyd ymholiadau gan 53 o Aelodau Cynulliad (88%); gwnaeth 49 ohonynt (82%) o leiaf ddau ymholiad; roedd 46 ohonynt (77%) wedi gwneud o leiaf dri ymholiad a 45 ohonynt (75%) wedi gwneud o leiaf bedwar ymholiad - ffigurau tebyg iawn i'r cyfnod blaenorol.

5.0        Y Bwrdd Taliadau

5.1        Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd Taliadau yn ystyried y pecyn llawn o daliadau ar gyfer Aelodau yn y Pumed Cynulliad.  Yn ystod yr haf a'r hydref, ymgynghorodd y Bwrdd ar gynigion ar gyfer trefniadau pensiwn, newidiadau i faterion yn ymwneud â'r trefniadau ar gyfer Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a lwfansau i Aelodau.  Ym mis Tachwedd, ymgynghorodd y Bwrdd hefyd ar gynigion ar gyfer cyflogau Aelodau yn y Pumed Cynulliad, a ysgogodd ddiddordeb sylweddol  gan y cyfryngau a'r cyhoedd.  Cyn bo hir, bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ymgynghoriad ar y Penderfyniad ar gyfer pumed blwyddyn y Pedwerydd Cynulliad a'r Penderfyniad gyfer y Pumed Cynulliad.

5.2        Bydd y Bwrdd yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag Aelodau'r Cynulliad, Arweinwyr y Pleidiau a Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad i glywed safbwyntiau gwleidyddol eang ar bob agwedd ar ei gylch gwaith.  Bydd hefyd yn sicrhau ei fod yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ymgysylltu â'r Bwrdd trwy wahanol ddulliau o gyfathrebu.

6.0        Cefnogi Pwyllgorau

6.1         Ym mis Tachwedd, trafododd y Comisiynwyr y cynnydd o gymharu â’r adolygiad o gefnogaeth pwyllgorau. Mae uchafbwyntiau'r gwelliannau a gyflwynwyd yn cynnwys:

·  darparu papurau yn fwy cyson ac amserol;

·  sicrhau bod mwy o bapurau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg;

·  ymgysylltiad ehangach a dyfnach â phobl Cymru, yn enwedig pobl ifanc; a

·  darparu rhaglen barhaus o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer Aelodau.

 

6.2         Mae dau ddarn allweddol o waith ar y gweill ac i fod i gael eu cwblhau yn ystod y chwarter nesaf. Byddant yn sicrhau bod gwasanaethau'r Comisiwn yn darparu'r cymorth gorau posibl i Aelodau yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.  Mae'r meysydd hyn fel a ganlyn:

·  defnyddio adnoddau ychwanegol dros dro i fynd i'r afael â llwyth gwaith craffu deddfwriaethol trwm; a

·  chynnal cyfarfodydd gydag Aelodau unigol i adeiladu proffil o sut maent yn ymgymryd â gwaith pwyllgor ac felly'n llywio cynllun y gwasanaeth.

7.0        Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Prosiect Trosglwyddo ar gyfer Gwasanaethau yn y Dyfodol

7.1         Cafodd y Prosiect Trosglwyddo ar gyfer Gwasanaethau yn y Dyfodol ei gwblhau ar amser ac o dan y gyllideb ym mis Gorffennaf 2014.  Mae'r holl drefniadau contract gydag Atos bellach wedi dod i ben, ac ar wahân i'r gwasanaeth teleffoni a rennir, a fydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2015, mae rhwydweithiau TGCh y Cynulliad a Llywodraeth Cymru bellach yn gwbl ar wahân.  Gweithiodd y tîm yn agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau parhad llwyddiannus gwasanaethau TGCh y Siambr i Weinidogion Cymru yn dilyn gwahanu rhwydweithiau.   Cafodd y contract sy'n darparu cefnogaeth peiriannydd TGCh ar gyfer Swyddfeydd Etholaeth a gweithwyr cartref ei ddyfarnu i Antur Teifi, a dechreuodd ym mis Awst.

 

7.2         Ers i ni gymryd rheolaeth a pherchnogaeth lawn o'n systemau, mae'r tîm wedi gwneud nifer sylweddol o newidiadau i ddiweddaru a symleiddio’r seilwaith. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

·         mudo copiau wrth gefn o'n data ar gyfer yr ystâd gyfan ar system newydd;

·         cyflwyno arbedion cost sylweddol;

·         ailgyflunio ac ailddosbarthu gweinyddion storio i gynyddu capasiti;

·         gwneud y defnydd gorau o'n cyfarpar heb orfod prynu rhagor o weinyddion;

·         symud systemau allweddol i galedwedd mwy newydd a gwydn a chael gwared ar hen offer a lleihau costau cynnal a chadw a phŵer; ac

·         uwchraddio meddalwedd sy'n bwysig i'r busnes i'r fersiynau diweddaraf.

 

Senedd.tv

7.3          Ym mis Medi, cafodd y gwasanaeth Senedd.tv newydd ei lansio.  Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr wylio, oedi ac ail-chwarae darllediadau byw ar nifer o ddyfeisiau, gan gynnwys tabledi a ffonau clyfar. Gall defnyddwyr hefyd ddewis clipiau o gyfarfodydd y gellir wedyn eu rhannu neu eu plannu ar wefannau eraill.  Mae'r safle newydd yn cymryd ac yn diweddaru'n awtomatig yr holl wybodaeth am gyfarfodydd o System Rheoli Busnes y Cynulliad (ABMS), gan gynnwys, dyddiad, amser, eitemau agenda a phawb a oedd yn bresennol - rhywbeth a oedd yn gorfod cael ei fewnbynnu â llaw ar yr hen system.

 

7.4         Rydym wedi gosod archif ddigidol newydd ar gyfer trafodion y Cynulliad, gan symud i ffwrdd o recordiadau sy'n seiliedig ar dâp-i ddull mwy gwydn ac eco-gyfeillgar o storio.  Mae'r archif newydd yn cynnig mynediad ar-lein llawn i ffilm o ansawdd uchel ar gyfer staff yr Uned Darlledu am y tro cyntaf, a gall y darlledwr chwarae ffilm yn ôl i bartneriaid darlledu ar unrhyw adeg, hyd yn oed pan fydd y cyfarfod yn fyw.  O ganlyniad i weithredu'r system newydd, rydym wedi gallu ailgychwyn y gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer Cwestiynau i'r Prif Weinidog, mewn partneriaeth ag S4C a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar.  Mae hwn yn cael ei ddangos ar raglen 'Y Dydd yn y Cynulliad' ar ddydd Mawrth ac ar adran 'Mwy o’r Senedd' ar y wefan Senedd.tv newydd.

 

Gwefan y Cynulliad

 

7.5         Cafodd gwefan y Cynulliad ei mudo'n llwyddiannus i lwyfan Sharepoint newydd ar ddechrau mis Medi.  Cafodd dros 120,000 o dudalennau a 100,000 o ddogfennau eu symud i'r llwyfan newydd, er mwyn i'r wefan fod yn haws ei defnyddio ar ddyfeisiau clyfar ac er mwyn i ddefnyddwyr fedru chwilio drwyddi’n well.

 

 

.wales/.cymru

 

7.6         Fel mabwysiadwr cynnar o'r enwau parth rhyngrwyd lefel uchaf newydd i Gymru, daeth y Cynulliad yn un o'r sefydliadau cyntaf i ddefnyddio cyfeiriadau gwefannau  .wales / .cymru yn gynnar ym mis Hydref.  Cafodd hyn ei ddilyn gan fabwysiadu'r cyfeiriadau parth newydd ar gyfer holl negeseuon e-bost y Cynulliad ym mis Rhagfyr.

 

8.0        Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'r Aelodau a'u staff cymorth

8.1         Rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr, bu'r Aelodau a'u Staff Cymorth mewn ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu gyda 15 Aelod newydd yn cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd Datblygiad Proffesiynol Parhaus.  Manteisiodd yr Aelodau ar gyfanswm o 145 o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn ystod y cyfnod o chwe mis.

8.2         Yn ystod yr un cyfnod cymerodd cyfanswm o 71 o Staff Cymorth newydd ran mewn rhyw fath o weithgaredd Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gyda chyfanswm o 258 o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn cael eu cymryd.  Roedd y gweithgareddau'n cynnwys:

·  Gwybodaeth am y gyllideb i Bwyllgorau

·  Craffu deddfwriaethol gyda Phwyllgorau

·  Ymwybyddiaeth ofalgar i Aelodau

·  Hyfforddiant cyfryngau i Aelodau

·  Sesiwn friffio ar Refferendwm yr Alban

·  Dyfarniad y Goruchaf Lys

·  Ymyriadau Hunanladdiad

·  Ysgrifennu'n Effeithiol

·  Cyfryngau Cymdeithasol

·  Diploma Arweinyddiaeth Strategol

·  Cysylltiadau effeithiol â'r cyfryngau

·  Ysgrifennu areithiau

·  Cymraeg

 

 

 

 

9.0        Ymgysylltiad a gwaith y Cynulliad ar faterion yr UE

Enghreifftiau o weithgareddau Aelodau Pwyllgor y Rhanbarthau a chyfranogiad ACau yng nghynadleddau'r UE

9.1        Aeth David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, i ymweld â Brwsel ar gyfer cyfarfodydd gydag Aelodau Cymreig o Senedd Ewrop, swyddogion yr UE, a chynrychiolwyr eraill sydd wedi'u lleoli ym Mrwsel.

9.2        Mae Mick Antoniw AC wedi chwarae rhan weithredol wrth i Bwyllgor y Rhanbarthau ymateb i'r argyfwng yn Wcráin.  Mae wedi cael ei enwebu fel aelod newydd o Bwyllgor CORLEAP y Rhanbarthau (fforwm gwleidyddol Partneriaeth Dwyrain Ewrop).

9.3         Siaradodd Rhodri Glyn Thomas AC mewn cynhadledd ar rôl Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) wrth gefnogi buddsoddiadau tiriogaethol ar draws yr UE.  Cymerodd ran hefyd mewn ymweliad lefel uchel grŵp o wleidyddion o Bwyllgor y Rhanbarthau â Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd.  Mae hyn i gyd yn ymwneud â gwaith Rhodri Glyn fel rapporteur Pwyllgor y Rhanbarthau yn ystod 2013 ar ddau adroddiad yn edrych ar synergeddau cyllideb a synergeddau rhwng cyllid cyhoeddus a chyllid phreifat, gan gynnwys rôl Banc Buddsoddi Ewrop.

9.4        Bu Mick Antoniw AC a Rhodri Glyn Thomas AC hefyd mewn nifer o gyfarfodydd pwyllgor a chyfarfodydd llawn Pwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel yn ystod yr hydref.

9.5        Ym mis Ionawr eleni, bydd David Melding AC, yn siarad yn un o gynadleddau’r UE yn Siambr y Dirprwyon yn Senedd yr Eidal yn Rhufain.  Mae'r gynhadledd yn edrych ar rôl Seneddau Cenedlaethol yn yr UE a bydd David yn siarad am rôl Seneddau is-Genedlaethol, gan gyflwyno profiadau'r Cynulliad o faterion yr UE a chyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

Gwaith yn ymwneud â'r UE yn y Pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn

9.6        Mae ystod eang o waith sy'n gysylltiedig â’r UE wedi cael sylw gan nifer o Bwyllgorau'r Cynulliad, ac yn y Cyfarfod Llawn.  Mae’r manylion i'w cael yn rhifyn y gaeaf o "Materion Ewrop" sydd ynghlwm wrth yr Adroddiad Uchafbwyntiau hwn, yn atodiad 1.

Allbynnau rhagweithiol yr UE

9.7        Mae Swyddfa'r UE a'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cynhoeddi amryw gyhoeddiadau rhagweithiol i gefnogi gwaith yr Aelodau ar faterion yr UE.  Mae'r rhain yn cynnwys Diweddariad Wythnosol yr UE, Materion Ewrop, y llif Twitter @SeneddEurope, a Diweddariadau Polisi yr UE a’r blog ymchwil Pigion, gan gynnwys cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd, y trafodaethau TTIP, cefnogaeth bosibl yr UE yn dilyn cau gwaith Murco yn Aberdaugleddau, a'r rheoliad a fabwysiadwyd yn ddiweddar ar rywogaethau goresgynnol estron yr UE.

9.8        Cynhyrchodd Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, ar y cyd â chydweithwyr o'r llyfrgelloedd / gwasanaethau ymchwil yn Senedd Iwerddon, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban, Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, bapur wedi'i ddiweddaru ar weithredu diwygiadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a fabwysiadwyd yn 2013.  Cafodd y papur hwn ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyfathrebu PAC 2014 gan y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n cael ei gynnal ym Mrwsel ar 29 Ionawr at 2015.

9.9        Rhwng 26 a 28 Ionawr bydd dirprwyaeth o 15 o swyddogion o'r Cynulliad, o’r timau Gwasanaeth Ymchwil, y Gwasanaeth Cyfreithiol, Pwyllgorau a Gwasanaeth y Siambr, y Swyddfa Breifat a'r Adran Gyfathrebu, yn ymweld â Brwsel ar gyfer rhaglen ymsefydlu / hyfforddi sydd wedi ei threfnu a'i hariannu (yn bennaf) gan y Comisiwn Ewropeaidd.


 

B.       Nod strategol – ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru

10.0     Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

10.1     Fel rhan o'r ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, ysgrifennodd y Llywydd at Arweinwyr y Pleidiau yn gofyn i'w pleidiau ystyried camau i sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll yn etholiad 2016.  Yn dilyn eu hymateb cadarnhaol, gwahoddodd y Llywydd hwy i enwebu cynrychiolydd i fod yn aelod o Glymblaid Menywod mewn Democratiaeth y Cynulliad.  Mae'r Glymblaid wedi cyfarfod amryw weithiau gyda'r nod o geisio cyfrannu'r arfer gorau, yn enwedig o seneddau eraill o bob cwr o'r byd, er mwyn cynyddu cynrychiolaeth seneddol menywod.  Caiff adroddiad y Glymblaid ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2015.

Lansiad swyddogol cynllun Mentora a Datblygu #POWiPL

10.2     Mae Cynllun Mentora a Datblygu'r Llywydd yn rhaglen sy'n cefnogi menywod sydd am gymryd cam i mewn i fywyd cyhoeddus.  Mae menywod wedi eu tangynrychioli'n sylweddol mewn bywyd cyhoeddus, ac felly mae gan y cynllun hwn swyddogaeth bwysig.  Bydd yn helpu i sicrhau bod menywod yn datblygu'n effeithiol ac yn mynd ymlaen i swyddi sydd yn aml yn cael dylanwad uniongyrchol ar fywydau pobl ledled Cymru.

10.3     Cynlluniodd Chwarae Teg ac Ysgol Fusnes Caerdydd gyflwyniad a fformat y cynllun ar ran y Cynulliad a arweiniodd at ei lansiad swyddogol ar 9 Hydref 2014.

10.4      Mae pedwar ar ddeg o fentoreion bellach wedi cael eu paru gyda mentoriaid cymeradwy.  Byddant yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn i'r mentoreion ennill cefnogaeth, anogaeth a phrofiad i wella eu datblygiad personol a'u hyder dros y 18 mis nesaf.  Bydd mentoreion hefyd yn cael cyfle i gysgodi rhai mewn swyddi rheoli uwch a bywyd cyhoeddus mewn amrywiaeth o sectorau yng Nghymru, fel Aelodau'r Cynulliad a Phrif Weithredwyr sefydliadau.

Lansio'r Datganiad ar y Cyd

10.5     Ailddatganodd y Cynulliad, Gweinidogion Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu hymrwymiad ar y cyd i gynyddu nifer y menywod mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru drwy lofnodi datganiad ar y cyd yn y Senedd ar 25 Mehefin 2014.

10.6     Mae'r tri sefydliad wedi gweithredu rhaglenni strategol i fynd i'r afael â'r prinder menywod mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru.

11.0     Diwrnod Newyddion Hyperleol

11.1     Roedd y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd, yn rhan o ymgyrch barhaus y Llywydd i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd a achosir gan y bwlch o ran y sylw a gaiff bywyd gwleidyddol Cymru yn y cyfryngau.

11.2     Rhoddodd y digwyddiad fynediad i newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol i'r Senedd i'w galluogi i adrodd am waith y Cynulliad sy'n berthnasol i'w hardal a'u cynulleidfaoedd.  Trefnwyd cynadleddau i'r wasg gan roi cyfle i'r pedair plaid annerch y newyddiadurwyr ac ymateb i'w cwestiynau.

11.3     Yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth a chyn-Gyfarwyddwr Global News y BBC, a oedd yn gweithredu fel golygydd newyddion ar y diwrnod gan gynnig cyngor ac arweiniad i'r newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol.

11.4     Gellir gweld y straeon newyddion a'r cyfweliadau a gynhyrchwyd ar y diwrnod yn y ddolen isod:

http://democraticdeficitwales.tumblr.com/

11.5      Mae'r Cynulliad bellach yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddrafftio adroddiad sy'n amlinellu prif ganfyddiadau'r dydd a rhai o'r camau y gellid eu cymryd i gefnogi newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol wrth adrodd am waith y Cynulliad.  Rydym yn disgwyl cyhoeddi'r adroddiad yn gynnar yn 2015.

 

12.0     Dylanwadu a pharatoi ar gyfer newid cyfansoddiadol

12.1      Mae'r Llywydd wedi parhau i hyrwyddo ei thair blaenoriaeth ar gyfer newid cyfansoddiadol: capasiti, sofraniaeth a phwerau neilltuedig. Cyfarfu ag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru am y tro cyntaf ym mis Tachwedd, a chytunodd y ddau i gyfarfod yn rheolaidd yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, maent wedi gohebu â’i gilydd ar amrywiaeth o faterion cyfansoddiadol.

Rhoddodd y Llywydd (ac arweinwyr y pedair plaid) dystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol Seneddol ar Ddiwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol pan gynhaliodd y pwyllgor gyfarfod yn y Senedd ar 4 Rhagfyr 2014.

13.0     Cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad

13.1     Ers mis Medi, rydym wedi darparu 181 o sesiynau dysgu, gan gyfarfod â 5,839  o bobl ifanc.  Cynhaliwyd dau ddigwyddiad Hawl i Holi yng Ngogledd Cymru.  Mae tabl yn manylu ar rai o'r uchafbwyntiau yn y maes hwn yn Atodiad A.

13.2     Mae gwybodaeth am sut y mae pobl ifanc yn cymryd rhan gynyddol ym Musnes y Cynulliad bellach yn cael ei hyrwyddo ar  www.dygynulliad.org , gan gynnwys Twitter a Facebook.

13.3     Ym mis Hydref, ymunodd gweithiwr ieuenctid cymwysedig â'r tîm i ddatblygu ein gweithgareddau ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.  Mae nifer o gyfarfodydd gyda sefydliadau a grwpiau sy'n gweithio gyda phobl ifanc y tu allan i'r 'profiad ystafell ddosbarth' wedi cael eu cynnal.  Ym mis Rhagfyr, cynhaliwyd dau weithdy gyda'r myfyrwyr BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.

13.4     Ym mis Tachwedd, cafodd sgwrs genedlaethol ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ei lansio gan y Llywydd.  Bydd yr ymgynghoriad hwn yn parhau tan 2 Mehefin 2015, ac yna byddwn yn dadansoddi'r canlyniadau a'u cyflwyno ar gyfer trafodaeth mewn digwyddiad Diwrnod Ieuenctid yn y Senedd ym mis Gorffennaf.

 

14.0     Gweithgareddau allgymorth

14.1     Rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr bu’r tîm Cyfathrebu yn gweithio gyda'r grwpiau a'r sefydliadau canlynol, gan gyflwyno gweithdai i godi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am y Cynulliad a'i waith:

Grwpiau Cymunedau yn Gyntaf

 

Cadwyn

 

Fforymau Anabledd

 

Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth 

 

YMCA

 

Age Cymru

 

Pop Up Talent

 

Grwpiau mynediad i bobl anabl

 

U3A

 

Y Sgowtiaid

 

Kim Inspire

 

Cymdeithas Strôc Cymru

 

 

Rhwydwaith Cyfranogaeth Cymru Gyfan

 

Rhwydwaith Fforwm Ieuenctid

 

Grŵp y Prif Weithwyr Ieuenctid 

 

TAG - Rhwydwaith Prifysgol Cymru o Waith Ieuenctid BA / MA

 

Agored Cymru

 

Plant yng Nghymru

 

Youth Cymru

 

 

ISSA Cymru- Rhaglen dalen newydd gan weithio gyda chyn-droseddwyr Mwslimaidd a Phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

 

Sylfaen ar gyfer Addysg Ffoaduriaid (Fred) ltd

 

Girl Guiding

 

 

Paul Glaze o CWVYS

 

Jason Nancurvis o Working on Wheels

 

URDD

 

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol

 

National Theatre Wales

 

Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

Cymdeithas Hansard

 

Prifysgol Abertawe

 

Chwaraeon Cymru

Llywodraeth Cymru

 

15.0     Sioeau haf

15.1         Yn 2014 buom yn ymweld â 12 o sioeau cenedlaethol a rhanbarthol ledled Cymru ac yn siarad â bron i 10,000 o aelodau o'r cyhoedd.  Fe wnaethom ddatblygu'n arbennig yr hyn sydd gennym i'w gynnig yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru.  Cawsom strwythurau mwy amlwg a pharhaol, ac fe wnaethom barhau i noddi Pabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

15.2     Rydym hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno'r rhaglen ganlynol o ddigwyddiadau sydd wedi codi ymwybyddiaeth o fusnes y Cynulliad a mentrau amrywiol.

Sioe Frenhinol Cymru

15.3     Yn Sioe Frenhinol Cymru fe wnaethom weithio gyda'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ddarparu derbyniad ar gyfer rhanddeiliaid y Pwyllgor i lansio'r ymgynghoriad ar Fil Cenedlaethau'r Dyfodol.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

15.4      Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyflwynwyd y digwyddiad canlynol -  Can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf - Cofio, dysgu, deall, a galaru.  Defnyddiwyd y digwyddiad hwn yn llwyfan i lansio ein rhaglen i nodi canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

15.5      Menywod yn y Celfyddydau  - Digwyddiad ar ffurf trafodaeth banel a oedd yn trafod rôl menywod mewn swyddi uwch yn sector y celfyddydau.

15.6     Mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru cyflwynwyd y digwyddiad canlynol -  Carchar Wrecsam - syniad da?  Roedd y digwyddiad hwn yn trafod manteision ac anfanteision y carchar mawr arfaethedig yn Wrecsam.

15.7     Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, S4C a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, cyflwynwyd Yr Gymraeg mewn Oes Ddigidol, a oedd yn trafod dyfodol y Gymraeg yn yr hinsawdd dechnolegol sydd ar y gorwel.

15.8     Gellir gweld rhestr o ddigwyddiadau mawr eraill a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn yn Atodiad B.

16.0     Cynnwys y cyhoedd yng ngwaith y pwyllgorau

16.1     Mae nifer o’r gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cefnogi gwaith y pwyllgorau.  Nod hynny oedd cael amrywiaeth ehangach o bobl i ywmenud â busnes y Cynulliad.  Dyma rai enghreifftiau:

·      Creu, hyrwyddo a chrynhoi arolwg ar Ailgylchu fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.  Clywsom gan 3,252 o bobl, gan gynnwys 2,377 o blant a phobl ifanc.

·       Bu aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymweld â phrosiectau fel Prosiect Warws Wrecsam, Dan 24/7 yng Ngogledd Cymru, DrugAid a Chlwb Ieuenctid Forsythia ym Merthyr fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor i Sylweddau Seicoweithredol Newydd.  Cafodd yr ymweliadau hyn eu dilyn gan ddigwyddiadau gyda staff rheng flaen yn Wrecsam a Merthyr Tudful.

·       Gofynnodd arolwg yn ystod yr haf am farn pobl ifanc am y cwricwlwm a chymwysterau.  Cymerodd dros 1,000 o bobl ifanc ran.  Cafodd y data ei ddefnyddio fel rhan o Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Helpu Pobl Ifanc i gael Gwaith.  Cafodd y data hefyd ei anfon at yr Athro Donaldson gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i lywio Adolygiadau Llywodraeth Cymru o Asesu a'r Cwricwlwm.

Dywedodd yr Athro Donaldson: "Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ddod â hwn i fy sylw ac am rannu gyda mi ganfyddiadau eich arolwg diweddar. Yn sicr bydd o ddiddordeb mawr wrth imi lunio fy argymhellion i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau".

Ffilmiodd y tîm hefyd bobl ifanc o wahanol rannau o Gymru ar gyfer yr ymchwiliad.  Cafodd y fideos hyn eu golygu yn un fideo a ddangoswyd i'r Pwyllgor mewn cyfarfod pwyllgor cyhoeddus cyn sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog.

·      Trefnwyd digwyddiad i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fel rhan o'i ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad.  Hwn oedd y tro cyntaf i ddigwyddiad pwyllgor gael achrediad Datblygiad Proffesiynol Parhaus, sy'n golygu bod y rhai a oedd yn bresennol nid yn unig wedi gallu cyfrannu at yr ymchwiliad drwy gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp gydag Aelodau, ond hefyd wedi cael pwyntiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus am gymryd rhan.

·      Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CELG) i Dlodi, trefnwyd sesiynau ledled Cymru lle roedd yr Aelodau'n gallu ymweld â phrosiectau fel Remploy, RNIB a'r prosiect Oasis i drafod materion gyda defnyddwyr gwasanaeth.

17.0     Addasiadau i'r Siambr / Prosiect Cefnogi Busnes y Cyfarfod Llawn

17.1     Mae'r cynlluniau a gymeradwyodd y Comisiwn yn cynnwys cynllun desg diwygiedig, TG newydd, sefydlog a datblygu meddalwedd fewnol yn  lle'r feddalwedd bresennol yn y Siambr.

17.2     Cafodd desg ffug maint llawn ei chreu er mwyn i'r Aelodau weld y cynllun desg arfaethedig a rhoi adborth.  Cafwyd llawer o adborth adeiladol, sydd bellach wedi’i ddefnyddio i fireinio'r cynllun desg fel ei fod yn bodloni anghenion yr Aelodau.

17.3     Mae cynnydd wedi'i wneud hefyd i ddylunio ac adeiladu'r feddalwedd a fydd yn cael ei defnyddio yn ystod y Cyfarfod Llawn.  Mae'r broses o gasglu gofynion a phrofi'r feddalwedd wedi bod yn mynd rhagddi'n dda a bydd y gwaith yn parhau trwy'r flwyddyn.  Byddwn yn ymgynghori ag Aelodau ar y feddalwedd yn ystod rhan gyntaf 2015.

18.0     Y Cyfryngau Cymdeithasol

18.1     Cyflawnwyd rhai cerrig milltir pwysig yn ystod y cyfnod hwn.  Bellach, mae dros 60,000 o ddefnyddwyr wedi gwylio darn o fideo ar ein sianel YouTube ers 2009, tra bod rhagor o gyfrifon Twitter wedi cael eu lansio i hyrwyddo darnau penodol o waith yn y Cynulliad. Y diweddaraf yw @SeneddOutreach / @SeneddAllgym.  Mae rhagor o wybodaeth yn Atodiad C.

19.0     Sylw i fusnes y Cynulliad yn y cyfryngau

19.1     Mae'r cyfryngau wedi canolbwyntio ar nifer o brosiectau strategol allweddol ers mis Gorffennaf sydd wedi denu sylw da yn y cyfryngau:

Ymgysylltu â Phobl Ifanc

19.2     Cafwyd sylw eang yn y cyfryngau i lansiad y Siarter Ieuenctid ym mis Gorffennaf, gan gynnwys darnau traethawd gan y Llywydd yn y Western Mail a'r Daily Post.

19.3      Dilynwyd hyn ym mis Tachwedd gan sylw eang i lansiad y sgwrs ynghylch Pleidleisiau@16, gan gynnwys cyfweliadau gyda'r Llywydd ar BBC Cymru, ITV Cymru a Radio Heart.  Cynhwysodd y Western Mail a'r Daily Post unwaith eto ddarnau traethawd gan y Llywydd yn ogystal â sylw mewn teitlau wythnosol llai gan gynnwys Golwg.

Newid cyfansoddiadol

19.4      Ffocws allweddol ar gyfer y tîm cyfryngau oedd codi'r proffil yn y cyfryngau o safbwynt y Llywydd yn y ddadl barhaus ynghylch trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol.  Mae hyn wedi cynnwys gwaith traethawd ar draws nifer o lwyfannau, gan gynnwys y Western Mail, y Daily Post a Click on Wales y Sefydliad Materion Cymreig.  Roedd hyn yn cynnwys gwaith yn ystod y cyfnod cyn refferendwm yr Alban a'r ddadl a ddilynodd hynny.

19.5     Cafodd negeseuon craidd y Llywydd am fwy o gapasiti, sofraniaeth a phwerau neilltuedig eu hyrwyddo ar bob cyfle posibl yn ystod y ddadl barhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Prydain.  Er enghraifft, fe wnaethom gyhoeddi datganiad gan y Llywydd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Comisiwn Smith ac mae'r negeseuon craidd hynny wedi ffurfio rhan ganolog o'r sylw yn y cyfryngau ar draws ystod o gyfryngau yng Nghymru, a thu hwnt, gan gynnwys cyfweliad ar ddarlledwr y wladwriaeth yng Ngwlad yr Iâ.

19.6     Rhoddwyd sylw helaeth hefyd i goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf ar ystâd y Cynulliad yn ogystal ag ymweliad y Llywydd â Fflandrys; targedau allyriadau'r Cynulliad; a Chystadleuwyr Gemau'r Gymanwlad yn dod adref.

20.0     Sylw i Bwyllgorau'r Cynulliad yn y Cyfryngau 

20.1     Mae pwyllgorau'r Cynulliad wedi denu sylw da yn y cyfryngau, gyda chryn sylw'n cael ei roi i nifer o adroddiadau. Dyma enghreifftiau:

Mis

Disgrifiad:

Pwnc o dan sylw

Hydref

Cyflwyno deiseb i'r Pwyllgor Deisebau yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â'r gwaharddiad arfaethedig ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus.

Western Mail  a'r  South Wales Argus

 

Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sut y gallai'r Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau niweidio'r diwydiant carafannau yng Nghymru.

 South Wales Argus, North Wales Pioneer, North Wales  Chronicle, Rhyl Journal, Denbighshire Free Press  a  News North Wales

Tachwedd

Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yng Nghymru

 Newyddion BBC Cymru, Newyddion ITV Cymru, Newyddion S4C  ac yn  WalesOnline  a'r  South Wales Echo

Rhagfyr

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar berfformiad mewnfuddsoddi yng Nghymru

Newyddion BBC Cymru, Newyddion S4C a rhaglen Sunday Politics BBC Cymru

 

21.0     Teithiau o amgylch y Senedd,

21.1     Mae teithiau sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw o amgylch y Senedd yn parhau i fod yn boblogaidd iawn fel mae'r graffiau isod yn dangos (mae'r ffigurau ar gyfer 2014/2015 am 8 mis).  Mae'r adborth a gafwyd yn gadarnhaol iawn ac mae'n dangos bod grwpiau'n gadael gyda llawer gwell dealltwriaeth o'r Cynulliad, y ffordd y mae'n gweithio a'r testunau cyfredol sy'n destun ymgynghoriad.

22.0     Hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol

22.1     Yn Atodiad D mae rhestr o’r prif ddigwyddiadau ac ymweliadau rhyngwladol, gan gynnwys ymweliadau diplomyddol.


C.       Nod strategol – defnyddio adnoddau'n ddoeth

23.0     Llywodraethu Gwybodaeth

23.1     Nododd adroddiad archwilio mewnol ym mis Mehefin sgôr boddhaol a nododd bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar godi ymwybyddiaeth, ar draws y Cynulliad, o bwysigrwydd a chyfrifoldeb am lywodraethu gwybodaeth yn effeithiol.

23.2     Cyflwynwyd cynllun marciau diogelwch symlach; mae gwaith yn parhau i gryfhau proses y gofrestr asedau gwybodaeth fel dull o reoli gwybodaeth; ac mae ymarfer hunanasesu wedi’i gynnal gan y Perchnogion Asedau Gwybodaeth.

23.3     Mae'r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth wedi cyflwyno nifer o sesiynau ymwybyddiaeth mewn swyddfeydd etholaethol i gynorthwyo Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad mewn perthynas â diogelu data a rheoli gwybodaeth a bydd y rhain yn parhau i gael eu cynnig yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.  Mae Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cynorthwyo gydag ymholiadau diogelu data a bydd dogfen ganllawiau diogelu data newydd yn cael ei rhyddhau yn gynnar yn 2015.  Yn olaf, bydd fframwaith polisi llywodraethu gwybodaeth syml a hawdd ei ddefnyddio hefyd yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn 2015.

24.0     Capasiti a Chynllunio'r Gweithlu

24.1     Mae'r Bwrdd Rheoli wedi newid ei ddull o Gynllunio Capasiti er mwyn gwella ein gallu i gyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol, ac ar yr un pryd rheoli ein hadnoddau cyfyngedig yn effeithiol.

25.0     Y Cynllun Prentisiaeth

25.1      Mae Rhaglen Prentisiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd.  Cafodd pedwar prentis eu recriwtio yn ystod y flwyddyn gyntaf a chwe phrentis arall eu recriwtio ar gyfer 2013-14.  Mae'r prentisiaid yn cael eu cyflogi mewn gwahanol dimau ar draws y Cynulliad, gan gynnwys ein swyddfa yng Ngogledd Cymru.

25.2      Ym mis Hydref 2014 cafodd y Cynulliad ei roi ar y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Blynyddol mawreddog Cymru.  Mae'r gwobrau'n cydnabod cyflogwyr sy'n ymrwymo i ddatblygu eu gweithlu drwy brentisiaethau.

25.3      Er na wnaethom ennill y wobr, roeddem yn falch iawn o gael ein henwebu a byddwn yn defnyddio'r dysgu er mwyn helpu i wella cynlluniau Prentisiaeth yn y dyfodol.  Mae ein profiad yn ein helpu i ddatblygu rhaglen brentisiaeth i Aelodau, sydd i fod i gael ei lansio erbyn y Pumed Cynulliad.

26.0     Cydraddoldeb a hygyrchedd

Cydnabyddiaeth allanol

26.1     Mae'r Cynulliad wedi derbyn Gwobr Mynediad y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, sy'n dangos ein hymrwymiad i fod yn lleoliad hygyrch i ymwelwyr ar y sbectrwm awtistiaeth.

26.2      Cawsom hefyd ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer  Gwobr Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb Diverse Cymru  am y gwaith Asesu Effaith Cydraddoldeb a wnaed gan y Bwrdd Taliadau.

 Digwyddiadau a Gweithgareddau

26.3      Ym mis Mehefin, aethom ati i godi ymwybyddiaeth am wahanol faterion cydraddoldeb a hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael i staff yn ystod Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.  Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a fu’n trafod y realiti o fod yn ffoadur yng Nghymru, a Heddlu De Cymru a fu'n trafod meithrin ymddiriedaeth a gweithio gyda gwahanol gymunedau.

26.4     Ym mis Medi, ailgyflwynwyd Iaith Arwyddion Prydain ar y Cwestiynau i'r Prif Weinidog. Bellach, mae fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar gael i wylwyr yn ddiweddarach yr un diwrnod ar S4C, a chaiff ei archifo ar ein sianel YouTube.

26.5     Ym mis Hydref, cynhaliodd ein rhwydwaith staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig Llywodraeth Cymru ddigwyddiad ar y cyd i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon.  Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddathlu ac arddangos cyfraniad staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig o fewn Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

26.6      Er mwyn codi ymwybyddiaeth o wythnos gwrth-fwlio (17-21 Tachwedd 2014),  cymerodd contractwyr, Staff y Comisiwn, 18 Aelod Cynulliad a'r Bwrdd Rheoli ran yn yr ymgyrch Ei Glywed. Ei Atal. Peidiwch â sefyll o’r neilltu drwy lofnodi addewid i ymrwymo i herio bwlio mewn ymddygiad ac iaith.

Cefnogi ein staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a

chynyddu cynrychiolaeth grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu

26.7     Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, creu gwell dealltwriaeth o waith y Cynulliad a hyrwyddo'r Cynulliad fel cyflogwr o ddewis, mae ein Cydlynydd Cynllun Gweithredu BME wedi mynychu ffeiriau swyddi a digwyddiadau recriwtio, darparu hyfforddiant a chymorth wedi'i dargedu i ymgeiswyr posibl am swyddi o blith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, rhwydweithio gyda dros 20 o sefydliadau amrywiol a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel Mela a Diweddglo Mis Hanes Pobl Dduon.

26.8      Rydym yn treialu'r Pecyn Cymorth Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb  (EIA).  Mae'r Tîm Cydraddoldeb wedi rhannu pecyn cymorth a chanllawiau EIA gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod EIA yn cael ei ymgorffori yn natblygiad pob polisi a phrosiect.

26.9      Ym mis Awst cynhaliodd ein Archwiliwr Mewnol Archwiliad Cydraddoldeb i ystyried pa mor ddigonol ac effeithiol yw trefniadau'r Cynulliad ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth. Nododd yr archwiliad nifer o feysydd lle mae'r Cynulliad yn arddangos arfer da a rhai meysydd i'w gwella; ar y cyfan roedd yn rhoi gradd boddhaol inni.

27.0     Gwaith ar Ystâd y Cynulliad - Blaengynllun 10 Mlynedd ar gyfer Cynnal a Chadw ac Adnewyddu

27.1      Fel y nodwyd yn Strategaeth Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-2016, rydym wedi datblygu rhaglen dymor hir (dreigl) i flaenoriaethu’r buddsoddiadau yn yr ystâd. Cymeradwywyd y rhaglen gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.  Bydd y cynllun yn galluogi'r Comisiwn i sicrhau bod ein hystâd yn parhau i fod yn addas at y diben, yn adlewyrchu sefyllfa'r Cynulliad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn rhoi lle canolog i'r Senedd a'r Pierhead ym mywyd cyhoeddus Cymru.  Mae'r prosiectau canlynol wedi cael eu cwblhau yn ystod y chwe mis diwethaf yn adeiladau Tŷ Hywel:

Adnewyddu'r toiledau

27.2      Gan nad oedd toiledau Tŷ Hywel wedi’u hadnewyddu ers adeiladu'r adeilad yn 1992, rydym wedi eu hadnewyddu gan gynnwys gwella’r plymwaith a’r pibellau.  Mae'r gwaith adnewyddu hefyd wedi sicrhau gwelliannau cynaliadwy, gan gynnwys goleuadau LED, wrinalau di-ddŵr, synwyryddion fflysio, tapiau a dosbarthwyr sebon.  Rhai o’r gwelliannau eraill oedd cynyddu maint ciwbiclau os oedd lle i wneud hynny.  Cafwyd cryn dipyn o adborth cadarnhaol am y gwelliannau hyn i'n cyfleusterau.

Adnewyddu'r grisiau

27.3     Nid oedd y grisiau ychwaith wedi’u hadnewyddu ers adeiladu'r adeilad felly maent wedi’u hailaddurno a’u hail-garpedu.  Mae goleuadau LED ynni isel wedi’u gosod i gefnogi ein hamcanion cynaliadwyedd.

Adnewyddu Ystafelloedd Paned

27.4     Adnewyddwyd yr ystafelloedd paned yn ardal swyddfeydd yr Aelodau Cynulliad.  Gwnaed hyn yn ystod toriad yr haf i leihau aflonyddwch. Croesawyd y newidiadau gan yr Aelodau a'u staff.

Dodrefn newydd ar gyfer Parlwr Te yr Aelodau

27.5     Mewn ymateb i adborth gan y Comisiynwyr a'r Aelodau, darparwyd byrddau a seddau ychwanegol ym Mharlwr Te yr Aelodau yn ystod toriad yr haf, er mwyn darparu mwy o le Aelodau sy'n dymuno prynu bwyd o gownter bwyd poeth y prif fwyty eistedd wrth y byrddau.  Yn ystod yr haf, manteisiwyd ar y cyfle i newid y llawr, a oedd wedi'i ddifrodi a'i staenio.  Mae'r cyfleusterau ychwanegol hyn wedi’u croesawu gan yr Aelodau ac maent yn cael eu defnyddio'n helaeth.

Lle digwyddiadau yn y Neuadd

27.6      Yn dilyn adborth gan y Comisiynwyr am y lle ar oedd ar gael ar gyfer digwyddiadau yn ystod adegau o alw brig, cafodd sgrin a drysau gwydr eu gosod yn ardal y Neuadd ger derbynfa Tŷ Hywel. Gobeithiwn y bydd yr Aelodau'n croesawu'r lle ychwanegol hwn ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu noddi gan yr Aelodau.

Peiriant arian

27.7      Gyda chefnogaeth y Swyddfa Bost fewnol, gosodwyd peiriant arian ar goridor y llawr cyntaf ym mis Medi.  Bu’r peiriant arian yn gyfleuster ychwanegol gwerthfawr iawn ac mae'n cael llawer o ddefnydd.  Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd yr Aelodau a'r staff yn parhau i werthfawrogi a defnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post ar y Llawr Gwaelod, sydd ar gael rhwng 10:30 a 13:30 o ddydd Mawrth i ddydd Iau yn ystod y tymor.

28.0     Mentrau cynaliadwyedd

Gwobr Cynaliadwyedd y Sector Cyhoeddus

28.1     Ym mis Tachwedd, enillodd y Cynulliad wobr y Sefydliad mwyaf Cynaliadwy yn Sector Cyhoeddus y Llywodraeth yn seremoni Gwobrau blynyddol Cynaliadwyedd y Sector Cyhoeddus.  Rhoddwyd y wobr i gydnabod "cyflawniad nodedig a phwysig" wrth gyfrannu at leihau allyriadau carbon y sector cyhoeddus.   Rhai o'r uchafbwyntiau a gydnabyddir gan y dyfarniad yw bod y Cynulliad:

·  hyd yn hyn, wedi sicrhau gostyngiad o 37% mewn allyriadau ynni ers 2008/09, yn erbyn targed o 40%;

·  yn y broses o asesu dichonoldeb ymuno â rhwydwaith gwresogi arfaethedig ar gyfer ardal Caerdydd, gan ddefnyddio ynni o wastraff fel prif danwydd;

·  ar fin uwchraddio'r System Rheoli Adeiladau bresennol, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i wneud y gorau o effeithlonrwydd ei offer a'i ddefnydd o ynni.

·  wedi cynyddu ei gyfradd ailgylchu o 68% i 96% ers 2010/11; ac

·  wedi cyflawni gostyngiad o 50% mewn allyriadau CO2e gwastraff yn yr un cyfnod.

 

28.2     Mae'r Comisiwn wedi cymeradwyo trywydd lleihau ynni i ostwng allyriadau ynni gan 30% arall erbyn 2021 o'i gymharu â lefelau 2012/13.


 

D.      Y wybodaeth ddiweddaraf am Faterion Ariannol

29.0     Sefyllfa Ariannol 2014-15

29.1     Prif ddangosyddion perfformiad ariannol y Comisiwn yw tanwario 1% neu lai na'r Gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn, i sicrhau £500,000 o arbedion Gwerth am Arian a thalu anfonebau a hawliadau treuliau o fewn deng niwrnod. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn ar gyfer pob un o'r dangosyddion hyn. 

29.2     Yn benodol, ar ddiwedd mis Rhagfyr 2014, mae'r Comisiwn yn rhagweld sefyllfa o danwariant o £200,000 (0.4%) ar ddiwedd y flwyddyn. Cyfanswm yr arbedion Gwerth am Arian a nodwyd ar ddiwedd mis Rhagfyr yw £542,000, ac mae prosesau caffael wedi sicrhau £61,000 neu 11% o arbedion. Yn ystod y chwarter diwethaf rydym wedi cymryd 3.6 diwrnod ar gyfartaledd i dalu anfonebau a cheisiadau am dreuliau. 

29.3     Mae gennym nifer o brosiectau yn cael eu rheoli ar draws y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf.  Mae yna, felly, risg y gallai newidiadau i raglenni gwaith prosiectau effeithio ar y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Yn ddiweddar, adolygodd y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau y cynlluniau ariannol wrth gefn i reoli'r risg hwn.  Mae'r Bwrdd yn parhau i fod yn fodlon bod y cynlluniau yn rhoi digon o hyblygrwydd i ymdopi â newidiadau posibl rhwng nawr a diwedd y flwyddyn.

29.4     Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgymryd â'u harchwiliad interim ym mis Ionawr yn barod ar gyfer diwedd y flwyddyn.

29.5     Bydd y Comisiwn yn gosod Cyllideb Atodol 2014-15 i gynyddu'r symiau ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) a'r incwm y gallwn ei gadw, fel bod y ddau yn unol â rhagolygon cyfredol.

30.0     Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

30.1      Ym mis Hydref, bu'r Pwyllgor Cyllid yn craffu ar Gyllideb 2015-16  Adeiladu ar Fuddsoddiad a Newid cyn iddi gael ei thrafod a'i chymeradwyo gan y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd.

30.2     Cyfanswm y gyllideb weithredol ar gyfer 2015-16 yw £50.9 miliwn, sy'n darparu 1% o doriad mewn termau real i'r Comisiwn o gymharu â Chyllideb 2014-15.  Erbyn hyn, mae’r gwasanaethau TGCh yn cael eu darparu’n fewnol yn hytrach na chan gontractwyr, ac yn 2015-16 daw effeithiau ariannol hynny i’r amlwg. Mae’r newid hwn wedi sicrhau bod y costau TGCh o fewn ein rheolaeth ni a bydd yn rhyddhau £800,000 i fuddsoddi mewn gwelliannau ac ychwanegiadau i wasanaethau TGCh.

30.3     Bydd y rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar gyfer 2015-16 yn cynnwys:

·  diweddaru'r seilwaith TGCh, yn enwedig wrth i ni fwrw ymlaen i atgyfnerthu'r gwasanaeth TGCh yn fewnol, yn ogystal ag ailddodrefnu’r Siambr;

·  symud ymlaen â dyheadau'r Comisiwn i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog;

·  gwaith cynaliadwyedd i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd;

·  ymgysylltu tuag allan, gan gynnwys ymgysylltu â phobl ifanc;

·  gwella systemau rheoli gwybodaeth y Comisiwn; a

·  pharhau i fuddsoddi yn ystâd y Cynulliad.

30.4     Mae gwaith bellach wedi dechrau ar ddrafftio Strategaeth Cyllideb 2016-17 yn barod ar gyfer trafodaethau'r Comisiwn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

31.0     Caffael

31.1      Mae gwaith y tîm caffael yn cefnogi'r Rhaglen Gwasanaethau TGCh yn y dyfodol wedi dod i ben.  Fodd bynnag, maent yn parhau i weithio'n agos gyda TGCh i gefnogi dau brosiect pwysig - cynllun teleffoni newydd ac ail-dendro am y contract darlledu.

31.2     Mae'r tîm wedi datblygu gweithdrefnau rheoli contract newydd ac mae'n cyflwyno'r rhain i'r holl staff sy'n rheoli contractau.

31.3     Lle bynnag y mae hynny’n ymarferol, mae cyfleoedd contract yn parhau i gael eu hyrwyddo i fusnesau bach a chanolig lleol.  Ar hyn o bryd, mae 71% o'n contractau yn ôl nifer (sef gwerth dros £25,000) gyda busnesau bach a chanolig lleol.  Llwyddiant diweddar yn y maes hwn yw'r contract ar gyfer Peirianwyr Maes TGCh, a ddarparwyd yn flaenorol gan Atos. Dyfarnwyd hwn i Antur Teifi - busnes bach a chanolig o Gaerfyrddin.

Mesurau perfformiad allweddol

Mesur

2014-15

Arbedion caffael 

 

£95,498

 


 

E.       Rhyddid Gwybodaeth

32.0     Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer y cyfnod Gorffennaf-Rhagfyr 2014

32.1     Mae rhestr o'r wybodaeth a ddatgelwyd ers yr adroddiad diwethaf o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'w gweld yn Atodiad E.  Trefnwyd y rhestr yn ôl pwnc y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.  Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys manylion am y wybodaeth a gafodd ei dal yn ôl o ganlyniad i eithriadau Rhyddid Gwybodaeth, gwybodaeth a gafodd ei rhyddhau yn rhannol, a'r rhai lle nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw.

32.2     Mae'r siart isod yn dangos y 21 cais yn ôl categori.   Ni chymhwyswyd unrhyw eithriadau o ran amser a chostau.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ôl categori (mis Gorffennaf - mis Rhagfyr 2014)

 


 

Atodiad A

Cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Hyrwyddwyd yr ymchwiliad i Gyffuriau Penfeddwol Cyfreithlon gyda grwpiau ysgolion a cholegau, gan gynnwys ar-lein drwy wefan 'dygynulliad'.

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymchwiliad Ailgylchu pan ymatebodd dros 2,783 o bobl ifanc i'n harolwg.

Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Rhoddwyd y cyfle i bob grŵp o bobl ifanc a gyfarfu yn y cyfnod cyn y cyfarfod ym mis Hydref, awgrymu cwestiynau i'r Aelodau eu gofyn i'r Prif Weinidog yn ystod sesiwn graffu ar faterion cyfansoddiadol.

Menter a Busnes

Casglwyd tystiolaeth gan bobl ifanc i fwydo i mewn i ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Helpu Pobl Ifanc i gael Gwaith. Ymgysylltwyd â chyfanswm o 2,008 o bobl ifanc.   

Rhoddwyd gwybod i grwpiau am yr ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yng Nghymru

Plant a Phobl Ifanc

 Hyrwyddo sut y gwnaeth pobl ifanc gyfrannu at yr ymchwiliad i Iechyd Meddwl  Plant a'r Glasoed, ar-lein Hyrwyddwyd yr adroddiad ar-lein.

Holiadur cwmpasu Cwricwlwm Asesu a Chymwysterau (1,087)

Bil Aelod Preifat

Arolwg y Bil Llythrennedd Ariannol a Chynhwysiant (623)

 

 

 

Atodiad B

Digwyddiadau mawr eraill a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2014

Digwyddiadau i Groesawu Athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd y Gymanwlad Gartref

 

Digwyddiad cyhoeddus ar risiau'r Senedd gyda derbyniad preifat i ddilyn i longyfarch tîm Cymru ar ei lwyddiannau yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow 2014.

 

Digwyddiadau Refferendwm yr Alban

 

Cynhadledd a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru ac a oedd yn amlinellu'r effaith y bydd digwyddiad Refferendwm yr Alban yn ei chael ar Gymru.

 

Newid yr enw parth i .Cymru / .Wales

Digwyddiad a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Nominet i lansio'r enw parth .Cymru / .Wales yn swyddogol.

Rhaglen i goffau y Rhyfel Byd Cyntaf 11 Tachwedd

Sul y Cofio 2014 oedd y cyntaf yng nghyfres flynyddol y Cynulliad o ddigwyddiadau i goffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Yn 2014 cynhaliodd y Cynulliad y digwyddiadau swyddogol canlynol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf:

·         Lansio'r rhaglen Cymru o Blaid Heddwch mewn cydweithrediad â CEWC Cymru.

·         Digwyddiad ar gyfer Heddlu Trafnidiaeth Prydain i goffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

·         Dau funud o ddistawrwydd

·         Dadl ar gyfer pobl ifanc yn Siambr Hywel.

·         Darlith gan Bennaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

 

 

Atodiad C

Cyfryngau Cymdeithasol mewn ffigurau

Llwyfan

Disgrifiad:

Cyfryngau Cymdeithasol

Y Tîm Allgymorth yw'r diweddaraf i lansio ar Twitter gan ddod â chyfanswm sianeli'r Cynulliad ar gyfryngau cymdeithasol i 57 ar draws 6 llwyfan.

YouTube

Mae 60,000 wedi ein gwylio ar YouTube ers 2009.  Roedd 43% yn 2014.

Twitter Corfforaethol

Trydarwyd y 5555fed neges drydar ar @CynulliadCymru.  Trydarwyd y neges gyntaf ym mis Ebrill 2009.

Ail-frandio cyfrifon Twitter

Mae cyfrifon Twitter pob maes Pwyllgor a Gwasanaethau bellach yn rhoi 'Senedd' yn gyntaf.

SeneddEnv

Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn treialu dadansoddeg datganoledig lle mae’r holl weithgarwch ystadegol misol yn cael ei gofnodi gan ddefnyddiwr y sianel.

Twitter

 Creu cyfrif Twitter Bwrdd Taliadau Aelodau'r Cynulliad i lansio ymgynghoriad ar gyflog a budd-daliadau Aelodau'r Cynulliad.  Y Tîm Allgymorth yn cael ei sianel bwrpasol gyntaf ar gyfryngau cymdeithasol sydd â chynnwys amrywiol fel delweddau, fideos a holiaduron.  Trydarwyd ffaith gysylltiedig â Chymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf bob dydd ym mis Tachwedd yn y cyfnod cyn Dydd y Cadoediad.

Twitter / Facebook / Blog

Y mwyaf erioed yn gweld y blog 'Pigion' oherwydd bod mwy o hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Twitter / Facebook

#1000Plenary - i ddathlu'r milfed Cyfarfod Llawn hanesyddol yr wythnos ddiwethaf, cysylltwyd â'r holl Seneddau yn y DU, ynghyd â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, i roi gwybod iddynt am y digwyddiad a'r hashnod #1000Plenary.  Mewn llai na 24 awr, roedd yr hashnod wedi cyrraedd dros 405,000, gan ei gwneud yn ymgyrch ar-lein mwyaf llwyddiannus y Cynulliad mewn amser byr.

Storify

Mae Storify yn cael ei ddefnyddio yn ehangach ar draws y Cynulliad fel dull o roi gwybod i'r cyhoedd am y gwaith yr ydym yn ei wneud.  Mae'n ffordd wych o gasglu gwybodaeth am ddarn penodol o waith y gellir ei hyrwyddo wedyn ar y cyfryngau cymdeithasol.


Atodiad D

Digwyddiadau ac ymweliadau rhyngwladol, gan gynnwys ymweliadau diplomyddol

Mai - Rhagfyr 2014

Dyddiad

Manylion

20 Mai

Croesawodd y Llywydd Noel A. Kinsella, Llefarydd Senedd Canada.

20 Mehefin

Bu’r Comisiynydd Peter Black AC yn cynrychioli’r Llywydd, a rhoddodd gyflwyniad ar waith y Cynulliad yng Ngweithgor CALRE ar e-ddemocratiaeth yn Seville.

16-17 Awst

Ymwelodd y Llywydd ac Arweinwyr Pleidiau'r Cynulliad â Fflandrys i fod yn bresennol yn y gwasanaeth i Gysegru Cofeb Genedlaethol Newydd Cymru yng Nghefn Pilkem, Langemark lle gosododd y Llywydd dorch ar ran y Cynulliad.

17-20 Medi

Arweiniodd y Llywydd ddirprwyaeth i Wlad yr Iâ a oedd yn cynnwys Eluned Parrott AC ac Antoinette Sandbach  AC. Roedd yr ymweliad yn rhan o raglen y Llywydd Clymblaid Menywod mewn Democratiaeth y Cynulliad  ac roedd yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd i ddysgu pam bod Gwlad yr Iâ yn dod yn uchel iawn yn gyson am ei gydraddoldeb rhywiol yn y senedd yn ogystal ag yn y gymdeithas yn ehangach. 

16-18 Hydref

Ymwelodd y Llywydd a Chomisiynwyr y Cynulliad â Fflandrys fel rhan o raglen goffáu swyddogol y Rhyfel Byd Cyntaf, a drefnwyd gan senedd Fflandrys.

19-21 Hydref

Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ddirprwyaeth drawsbleidiol i gynrychioli'r Cynulliad yn y 49 fed Cynhadledd Cyfarfod Llawn yn Ashford a Fflandrys.  Yn ystod yr ymweliad â Fflandrys gosododd y Dirprwy Lywydd dorchau ar ran y Cynulliad ar Gofeb Cymru yn Langemark ac ym Mhorth Menin, Ypres.

25 Hydref - 1 Tachwedd

Arweiniodd y Llywydd ddirprwyaeth, ynghyd â'r Comisiynwyr  Sandy Mewies AC, Rhodri Glyn Thomas AC, a Peter Black AC  ar ymweliad swyddogol cyntaf y Cynulliad â Chanada.  Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd yn Senedd Ffederal Ottawa, yn ogystal ag ymweliad â Chynulliad Deddfwriaethol New Brunswick. Mae copi terfynol o'r adroddiad wedi cael ei weld gan y Comisiynwyr ac mae ar gael yn ddwyieithog.

27 Hydref

Croesawodd y Dirprwy Lywydd Arlywydd Iwerddon i'r Cynulliad yn ystod ei ymweliad deuddydd â Chymru, fel rhan o ddathliadau i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

5-8 Tachwedd

 Bu'r Llywydd yng nghyfarfod Cynulliad Cyffredinol CALRE yn Santiago de Compostela (Sbaen).  Yn ystod y cyfarfod ymrwymodd y Llywydd i sefydlu a chadeirio'r Gweithgor Cydraddoldeb Rhywiol yn 2015.

 

Ymweliadau diplomyddol

Croesawodd y Llywyddion yr ymweliadau diplomyddol canlynol â'r Cynulliad hefyd.

·  8 Mai - Ei Ardderchowgrwydd Mr Ranjan Mathai, Uchel Gomisiynydd India i'r DU

·   14 Mai - Ei Ardderchowgrwydd Mr Diego Gomez-Pickering,  Llysgennad Mecsicanaidd  i'r DU

 

·  15 Mai - Ei Ardderchowgrwydd Mr Konstantinos Bikas, Llysgennad Groeg* i'r DU

·  20 Mehefin - Ei Ardderchogrwydd Aloun Ndombet-Assamba, Uchel Gomisiynydd Jamaica i'r DU

·  26 Mehefin - Ei Ardderchowgrwydd Dr Peter Ammon, Llysgennad yr Almaen i'r DU

·  16 Hydref – Ei Ardderchogrwydd Mr Pasquale Terracciano, Llysgennad yr Eidal* i'r DU
.

·   12 Tachwedd - Ei Ardderchowgrwydd Dr Ivan Grdešić,  Llysgennad Croatia  i'r DU

 

·   19 Tachwedd - Ei Ardderchowgrwydd Mr Peter Szabadhegy,  Llysgennad Hwngari  i'r DU

 

·   19 Tachwedd - Ei Ardderchowgrwydd Dr John Freeman  Llysgennad Prydain i'r Ariannin

 *  Digwyddodd yr ymweliadau diplomyddol hyn fel rhan o raglenni ehangach a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda Chadeiryddion Pwyllgorau'r Cynulliad i drafod blaenoriaethau eu gwledydd tra'u bod yn dal Llywyddiaeth Cyngor yr UE.


Atodiad E

CEISIADAU RHYDDID GWYBODAETH

Gorffennaf - Rhagfyr 2014

Cafwyd 21 o geisiadau am wybodaeth yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2014.  Mae'r categorïau yn ymwneud â natur y cais.

1.  Gwybodaeth a ryddhawyd yn dilyn ceisiadau rhyddid gwybodaeth

Comisiwn y Cynulliad

·          Defnyddio posteri etholiadol yn Nhŷ  Hywel a'r Senedd.

·         Copi o'r cynllun gweithredu BME.

·         Meicroffonau newydd yn y Siambr.

Comisiwn ac Aelodau'r Cynulliad

·         Dadansoddiad o'r 30 gwefan mwyaf poblogaidd.

Ystadau/Cyfleusterau

·         Protocol hedfan baner.

2.  Gwybodaeth a ddaliwyd yn ôl

Aelodau’r Cynulliad

·         Cynnydd yng nghyflog Aelodau'r Cynulliad.  Dibynnwyd ar adran 36 (Ymdriniaeth effeithiol o ran materion cyhoeddus).

Pwyllgorau a Deddfwriaeth

·         Tystiolaeth a gyflwynwyd yn ymwneud â Gwesty'r River Lodge, Llangollen.  Dibynnwyd ar adran 36 (Ymdriniaeth effeithiol o ran materion cyhoeddus).

 

3.  Rhyddhau gwybodaeth yn rhannol ond rhywfaint o wybodaeth heb ei chadw neu wedi'i dal yn ôl

Pwyllgorau a Deddfwriaeth

·         Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol   Dibynnwyd ar adran 22 (Cyhoeddiad yn y Dyfodol).

Aelodau’r Cynulliad

·         Ceir â gyrwyr swyddogol  Dibynnwyd ar adran 40 (gwybodaeth bersonol).

Comisiwn y Cynulliad

·         Gwybodaeth am y contract darlledu.  Dibynnwyd ar adran 43 (Buddiannau Masnachol).

 

4.  Dim gwybodaeth wedi'i chadw

Aelodau’r Cynulliad

·          Cofnodion pleidleisio unigol.  Dim gwybodaeth yn cael ei chadw

·         Cofnod presenoldeb.  Dim gwybodaeth yn cael ei chadw

 

Ystadau/Cyfleusterau

·          Gweithdrefnau diogelwch wrth fynd i mewn i'r Senedd a Thŷ Hywel (a dderbyniwyd ddwywaith). Dim gwybodaeth yn cael ei chadw

 

Pwyllgorau a Deddfwriaeth

·         Chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yng Nghymru.  Dim gwybodaeth yn cael ei chadw

·         Adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ofal iechyd.  Dim gwybodaeth yn cael ei chadw

·         Gwerth am Arian ar ddysgu a sgiliau.  Dim gwybodaeth yn cael ei chadw

·         Gwerth am Arian ar addysg cyfrwng Cymraeg (a dderbyniwyd 4 gwaith).  Dim gwybodaeth yn cael ei chadw